ein taflen i ddefnyddwyr
– eich cwyn chi a'r ombwdsmon
Cynlluniwyd y fersiwn gwefan hwn o'n taflen i ddefnyddwyr, eich cwyn a'r ombwdsmon, fel y gellir ei ddarllen ar y sgrîn. Ble bo'n briodol, mae'n ofynnol i fusnesau roi copi caled swyddogol o'r daflen hon i ddefnyddwyr (nid allbrint o'r dudalen hon). Gall defnyddwyr ein ffonio'n uniongyrchol hefyd ar 0300 123 9 123 i ofyn am y daflen.
Ceir manylion ar gyfer busnesau ynghylch y gofyn am iddynt roi ein taflen i ddefnyddwyr – ac ar sut i archebu cyflenwadau o'r daflen – yn ein nodyn technegol, dweud wrth ddefnyddwyr am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
wedi cwyno wrth eich banc, cwmni yswiriant neu gwmni arian – ond yn dal yn anfodlon?
Mae gan yr ombwdsmon hawliau swyddogol i setlo cwynion ariannol na allwch chi eu datrys eich hunan.
Byddwn ni’n edrych ar y ffeithiau, yn holi cwestiynau ac yn penderfynu beth sy’n deg ymhob achos. Os byddwn yn cytuno â’ch cwyn, gallwn orchymyn y busnes rydych wedi cwyno yn ei gylch i wneud pethau’n iawn.
Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn hollol annibynnol – ac mae ein gwasanaeth cwynion yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr.
Mae’r daflen hon yn dweud rhagor wrthych am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a sut y byddwn yn defnyddio ein pŵer i setlo.
Gallwn edrych ar gwynion ynghylch y rhan fwyaf o faterion ariannol, gan gynnwys
- bancio
- yswiriant
- morgeisi
- pensiynau
- cynilion a buddsoddiadau
- cardiau credyd a chardiau siopau
- benthyciadau a chredyd
- hur bwrcas a gwystlo
- cyngor ariannol
- stociau, cyfranddaliadau, unedau buddsoddi a bondiau.
Os nad ydych yn sicr a allwn ni helpu gyda phroblem – cysylltwch â ni a gofyn. Ffoniwch ni ar 0300 123 9 123.
Os ydych yn poeni am gost ein ffonio, byddwn yn fodlon iawn eich ffonio’n ôl.
sut mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn gweithio?
Rydym yn anelu at ddatrys anghydfod mor deg a chyflym ag y gallwn. Mae yna ddwy ochr i bob cwyn bob amser, felly byddwn yn edrych yn ofalus ar ddwy ochr y stori ac yn pwyso a mesur yr holl ffeithiau.
Os byddwn yn penderfynu fod y busnes rydych yn cwyno yn ei gylch wedi'ch trin yn deg, byddwn yn dweud wrthych pam.
Os byddwn yn penderfynu fod y busnes wedi'ch trin yn annheg a'ch bod chi ar eich colled o ganlyniad, gallwn orchymyn y busnes i wneud pethau'n iawn i chi. Yn gyffredinol, ein nod yw eich rhoi yn y sefyllfa y byddech ynddi petai pethau heb fynd o chwith.
Gall hyn olygu dweud wrth y busnes i'ch digolledu am golledion o hyd at £100,000. Ond mae'r rhan fwyaf o gwynion am symiau llawer iawn llai na hyn.
beth yw'r cam cyntaf wrth gwyno?
Os ydych yn cael problem gyda chynnyrch neu wasanaeth ariannol, mae bob tro’n well os gallwch ei setlo’n uniongyrchol gyda’r busnes hwnnw.
Os ydych yn cael trafferth cysylltu â’r busnes, neu os nad ydych yn sicr ynghylch rhywbeth, gadewch i ni wybod. Byddwn ni’n egluro’r hyn y dylech ei wneud nesaf. Ffoniwch ni ar 0300 123 9 123.
Os ydych yn poeni am gost ein ffonio, byddwn yn fodlon iawn eich ffonio’n ôl.
Gallwn drafod gyda chi mewn gwahanol ffyrdd, yn ôl eich anghenion chi. Os hoffech gael gwybodaeth mewn Braille, print bras neu ar dâp sain – neu mewn iaith arall – gadewch i ni wybod. Fe wnawn ein gorau i helpu.
pa bryd y gall y gwasanaeth ombwdsmon edrych ar fy nghwyn?
Gallwn edrych ar eich cwyn os:
- yw’r busnes rydych yn cwyno yn ei gylch wedi rhoi ei air olaf i chi ar eich cwyn ac rydych yn dal yn anfodlon, neu
- fod y busnes eisoes wedi cael wyth wythnos i drin eich cwyn ond yn dal heb anfon ei ateb terfynol atoch.
sut ydw i'n cofrestru fy nghwyn gyda chi?
Bydd yn rhaid i ni gael rhai manylion gennych chi i weld a allwn helpu. Gallwch son am eich cwyn wrthym ni drwy ein ffonio ar 0300 123 9 123.
Efallai y bydd yn rhaid i ni wedyn ofyn i chi lenwi ffurflen gŵyn. O’r ffurflen byddwn yn cael eich manylion personol a gwybodaeth ynghylch eich cwyn – gan gynnwys yr hyn yr hoffech chi i’r busnes ei wneud i gael pethau’n iawn.
Os yw’n well gennych, gallwch argraffu’r ffurflen o’n gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk
Os byddwch yn ein ffonio, efallai y gallwn ni lenwi ychydig ar y ffurflen gŵyn ar eich rhan. Does ond rhaid i chi roi manylion bras eich cwyn dros y ffôn. Ond bydd o help os gallwch chi hefyd roi enwau neu rifau'r cyfrifon neu’r polisïau perthnasol ayb.
beth fydd yn digwydd nesaf?
Os yw eich cwyn yn un y gallwn ei thrin, byddwn yn dechrau fel arfer drwy weld a allwn eich helpu chi a'r busnes i gytuno'n anffurfiol.
Byddwn yn:
- edrych ar eich ochr chi o'r stori
- cysylltu â'r busnes i gael ochr y busnes o'r stori
- pwyso a mesur y ffeithiau a
- dweud wrthych chi a'r busnes beth yw ein barn.
Efallai y byddwn yn teimlo fod y busnes wedi’ch trin yn deg ac nad ydych ar eich colled o ganlyniad i hynny. Os felly, dyna fyddwn ni’n ei ddweud wrthych chi.
Weithiau, fe fyddwn yn gweld nad oes unrhyw un yn amlwg ar fai. Os felly, efallai y byddwn yn awgrymu cyfaddawd i'ch helpu chi a'r busnes setlo'r mater.
Ond os yw’n amlwg eich bod chi ar eich colled o ganlyniad i’r hyn a wnaeth (neu na wnaeth) y busnes, gallwn ddweud wrth y busnes i wneud iawn am hynny.
Gall hyn olygu dweud wrth y busnes dalu’n ôl i chi am golledion o hyd at £100,000. Ond mae’r rhan fwyaf o gwynion ynghylch symiau llawer iawn llai na hyn.
ond beth os nad yw hynny chwaith yn datrys y broblem?
Mewn sawl achos, bydd trafod yn anffurfiol yn setlo’ch cwyn. Os na fydd, efallai y bydd yn rhaid i ni edrych ar bethau’n fwy ffurfiol.
Gallai hynny olygu y bydd yn rhaid i ni ofyn rhagor o gwestiynau i chi a’r busnes. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am ddogfennau a gwybodaeth bellach. Ac felly, gallai gymryd peth amser cyn y byddwn yn fodlon ein bod yn deall eich cwyn yn iawn.
Ar gyfartaledd, byddwn yn setlo'r rhan fwyaf o achosion o fewn chwech i naw mis – ac rydym yn datrys traean o achosion o fewn tri mis. Byddwn yn gadael i chi wybod bob tro y mae rhywbeth yn digwydd gyda’ch achos.
Gallwn setlo’r rhan fwyaf o gwynion heb fod yn rhaid i’r ombwdsmon ddod i benderfyniad ffurfiol. Ond os bydd yn rhaid cael penderfyniad yr ombwdsmon yn eich achos chi, mae’r penderfyniad hwnnw’n derfynol.
Does dim rhaid i chi dderbyn ein penderfyniad. Mae gennych hawl i fynd i lys yn hytrach na derbyn ein penderfyniad. Ond allwn ni ddim rhoi cyngor cyfreithiol i chi ynghylch gofynion neu gyfyngiadau unrhyw lys (er enghraifft ar derfynau amser).
oes yna derfynau amser ynghylch cwyno wrth y gwasanaeth ombwdsmon?
Oes. Bydd yn rhaid i chi anfon y gŵyn atom ni o fewn chwe mis o ddyddiad ateb terfynol y busnes rydych yn cwyno amdano.
Gallai terfynau amser eraill fod yn berthnasol os:
- ydych yn cwyno am yr hyn ddigwyddodd beth amser yn ôl a/neu
- os ydych os ydych wedi'i ei gadael yn rhy hir ar ôl i chi fod yn gwybod (neu y dylech fod yn gwybod) fod yna broblem.
all rhywun arall gwyno ar fy rhan?
Gall unrhyw un gwyno ar eich rhan – er enghraifft, aelod o’ch teulu, ffrind neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Ond bydd yn rhaid i ni gael eich caniatâd chi’n ysgrifenedig cyn y gallwn ni ddelio â nhw.
os raid i mi gan help arbenigwr i gyflwyno cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon?
Nac oes. Ddylech chi ddim fod angen help arbenigwr – er enghraifft, gan gyfreithiwr neu gwmni trin cwynion. Rydym ni'n edrych ar ffeithiau'r achos – nid ar ba mor dda rydych chi wedi cyflwyno'ch cais. Ac mae'n well gennym ni glywed oddi wrthych chi yn eich geiriau eich hunan.
Os byddwch yn cyflogi rhywun i gyflwyno'ch achos ar eich rhan, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eu costau. Gallai hynny olygu y byddwch yn talu mwy iddyn nhw yn y pendraw nag unrhyw iawndal sy'n ddyledus i chi.
a yw anfon cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol fel mynd i'r llys?
Nid yw gwasanaeth yr ombwdsmon mor ffurfiol â'r llysoedd. Fel arfer byddwn yn penderfynu ar achosion yn seiliedig ar yr wybodaeth y byddwch chi a'r busnes yr ydych yn cwyno yn ei gylch yn ei roi ni, yn ysgrifenedig a thros y ffôn. Rydym yn setlo bron pob cwyn heb fod yn rhaid i ni gael cyfarfod wyneb yn wyneb (neu "wrandawiad") gyda'r ddwy ochr.
Efallai nad yw ein gwasanaeth yn addas i chi os yw eich cwyn ynghylch mwy na £100,000. Efallai y byddai'n well gennych hefyd fynd â'ch cwyn i'r llys os ydych eisiau archwilio'r holl bapurau'n bersonol, holi eich cwestiynau eich hunan neu gael gwrandawiad fel mater o drefn.
Fyddwn ni ddim yn ystyried cwyn fel arfer os yw eisoes wedi cael ei hystyried gan lys (neu os yw i fod i gael ei hystyried gan lys).
all y gwasanaeth ombwdsmon fod o help gyda chwynion gan fusnesau bychan?
Gall. Fel arfer, gallwn ystyried cwynion oddi wrth fusnesau bychan sydd â throsiant o hyd at 2 filiwn ewros a llai na deg aelod o staff.
all y gwasanaeth ombwdsmon gosbi neu ddirywio busnesau?
Na all. Ein gwaith ni yw helpu setlo cwynion unigol rhwng busnesau sy'n darparu gwasanaethau ariannol a'u cwsmeriaid.
Dydyn ni ddim yn ysgrifennu rheolau ar gyfer busnesau. A dydyn ni ddim yn monitro (neu "reoleiddio") busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y rheolau. Gwaith y rheoleiddwyr yw hynny, megis yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a'r Swyddfa Masnachu Teg (OFT).
